Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

108Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) wrth—

(a)cynnal asesiad mewn perthynas â’r person ifanc o dan adran 107(1),

(b)llunio a chynnal cynllun llwybr ar gyfer y person ifanc o dan adran 107(3), neu

(c)adolygu cynllun llwybr y person ifanc o dan adran 107(10).

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ganfod a yw’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18.

(3)Mae “trefniant byw ôl-18” yn drefniant—

(a)pan fo person ifanc categori 3—

(i)sydd o dan 21 oed, a

(ii)a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1, a

(b)pan fo person (“cyn-riant maeth”) a oedd yn rhiant maeth awdurdod lleol i’r person ifanc yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben,

yn parhau i fyw gyda’i gilydd ar ôl i’r gofal a ddarparwyd i’r person ifanc ddod i ben.

(4)Pan fo’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddarparu cyngor a chymorth arall er mwyn hwyluso’r trefniant.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol cyfrifol o’r farn y byddai gwneud trefniant byw ôl-18 rhwng y person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn anghyson â llesiant y person ifanc.

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau y mae’n rhaid darparu gwybodaeth iddynt ynghylch trefniadau byw ôl-18;

(b)y modd y mae’n rhaid i’r wybodaeth honno gael ei darparu.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 108 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)