RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Gadael gofal, llety a maethu
108Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18
(1)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) wrth—
(a)
cynnal asesiad mewn perthynas â’r person ifanc o dan adran 107(1),
(b)
llunio a chynnal cynllun llwybr ar gyfer y person ifanc o dan adran 107(3), neu
(c)
adolygu cynllun llwybr y person ifanc o dan adran 107(10).
(2)
Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ganfod a yw’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18.
(3)
Mae “trefniant byw ôl-18” yn drefniant—
(a)
pan fo person ifanc categori 3—
(i)
sydd o dan 21 oed, a
(ii)
a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1, a
(b)
pan fo person (“cyn-riant maeth”) a oedd yn rhiant maeth awdurdod lleol i’r person ifanc yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben,
yn parhau i fyw gyda’i gilydd ar ôl i’r gofal a ddarparwyd i’r person ifanc ddod i ben.
(4)
Pan fo’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddarparu cyngor a chymorth arall er mwyn hwyluso’r trefniant.
(5)
Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol cyfrifol o’r farn y byddai gwneud trefniant byw ôl-18 rhwng y person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn anghyson â llesiant y person ifanc.
(6)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
y personau y mae’n rhaid darparu gwybodaeth iddynt ynghylch trefniadau byw ôl-18;
(b)
y modd y mae’n rhaid i’r wybodaeth honno gael ei darparu.