RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Gadael gofal, llety a maethu

110Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 3

1

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw drwy—

a

cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig;

b

cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

c

gwneud grant i’r person ifanc, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;

d

gwneud unrhyw beth arall sy’n briodol yn ei farn ef, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc.

2

Yn ogystal, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 sydd â threfniant byw ôl-18—

a

monitro’r trefniant, a

b

os yw’r awdurdod o’r farn bod y trefniant yn gyson â llesiant y person ifanc, ddarparu cyngor a chymorth arall i’r person ifanc a’r cyn-riant maeth gyda golwg ar gynnal y trefniant.

3

Yn is-adran (2) mae i “trefniant byw ôl-18” yr ystyr a roddir iddo gan adran 108 ac mae i “cyn-riant maeth” yr un ystyr ag sydd iddo yn y diffiniad hwnnw.

4

Gall y cymorth a roddir o dan is-adran (1)(d) a (2)(b) fod ar ffurf da neu mewn arian parod.

5

Pan fo cymorth yn cael ei ddarparu i gyn-riant maeth o dan is-adran (2)(b), rhaid i’r cymorth gynnwys cymorth ariannol.

6

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 sy’n dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr dalu’r swm perthnasol i’r person ifanc hwnnw.

7

Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (6) yn ychwanegol at ddyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan is-adran (1).

8

Mae is-adran (9) yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 wedi ei fodloni—

a

bod y person ifanc mewn addysg bellach neu uwch lawnamser,

b

bod y person ifanc yn cael cymorth o dan is-adran (1)(b) neu (c) neu wedi cael taliad o dan is-adran (6), ac

c

bod angen llety ar y person ifanc yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael.

9

Rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

a

darparu llety addas i’r person ifanc yn ystod y gwyliau, neu

b

talu digon i’r person ifanc i sicrhau llety o’r fath.

10

Mae’r dyletswyddau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 111.