RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Gadael gofal, llety a maethu

113Dyletswyddau yn dod i ben mewn perthynas â phobl ifanc categori 4

(1)

Mae dyletswyddau awdurdod lleol cyfrifol tuag at berson ifanc categori 4 yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr.

(2)

At ddibenion is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol cyfrifol ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.