RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Gadael gofal, llety a maethu
115Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6
(1)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 ystyried a fodlonwyd yr amodau yn is-adran (2) mewn perthynas â’r person ifanc.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod ar y person angen cymorth o fath y gall yr awdurdod lleol ei roi o dan yr adran hon, a
(b)
pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(b) i (e), bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person yr oedd y person ifanc yn derbyn gofal ganddo, yn cael ei letya ganddo neu ei faethu ganddo (o fewn ystyr yr is-adran honno) y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef.
(3)
Os yw’r amodau wedi eu bodloni—
(a)
rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef, os yw’r person hwnnw yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a) neu (b), a
(b)
mewn unrhyw achos arall, caiff yr awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef.
(4)
Pan fo awdurdod lleol, o ganlyniad i’r adran hon, o dan ddyletswydd neu wedi ei rymuso i gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef, caiff roi cymorth i’r person hwnnw yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5).
(5)
Caiff y cymorth gael ei roi—
(a)
ar ffurf da;
(b)
pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a)—
(i)
drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig;
(ii)
drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;
(iii)
drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;
(c)
drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety o dan baragraff (b);
(d)
mewn arian parod.
(6)
Caiff awdurdod lleol hefyd roi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5)(b)(ii) a (iii) i berson ifanc—
(a)
sydd o dan 25 oed, a
(b)
a fyddai’n berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a), pe bai o dan 21 oed.
(7)
Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5)(b)(ii) neu (iii) caiff ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(8)
Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod person ifanc y caiff ddarparu cymorth iddo o dan is-adran (4) neu (6) mewn addysg bellach neu uwch lawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—
(a)
darparu llety addas i’r person yn ystod y gwyliau, neu
(b)
talu digon i’r person i sicrhau llety o’r fath.