RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Gadael gofal, llety a maethu

I1I2117Codi ffi am ddarpariaeth o dan adrannau 109 i 115

1

Caiff awdurdod lleol osod ffi am gymorth (ac eithrio cyngor) o dan adrannau 109 i 115.

2

O ran ffi a osodir o dan adran (1)—

a

dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddi;

b

caniateir ei gosod—

i

ar y person ifanc sy’n cael y cymorth, os yw’r person ifanc hwnnw wedi cyrraedd 18 oed;

ii

ar berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y person ifanc sy’n cael y cymorth, os yw’r person ifanc o dan 18 oed.

3

Nid yw person yn atebol am dalu ffi o dan yr adran hon yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sydd o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

4

Yn is-adran (3) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.

5

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 61 neu 62 yn gymwys i ffioedd o dan yr adran hon mewn perthynas â chymorth fel y bo’n gymwys i ffioedd o dan adran 59 mewn perthynas â gofal a chymorth.

6

Caiff rheoliadau gymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir yn neu o dan adrannau 63 i 68 neu adrannau 70 i 73 i godi ffioedd o dan yr adran hon gyda neu heb addasiadau penodedig.