Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/04/2018
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/04/2016. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 119 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 09 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon, ni chaniateir i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr gael ei leoli, ac os yw wedi ei leoli, ni chaniateir iddo gael ei gadw mewn llety yng Nghymru a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid (“llety diogel”) onid yw’n ymddangos—
(a)bod y plentyn—
(i)yn un sydd â hanes o ddianc a’i fod yn debyg o ddianc o lety o unrhyw ddisgrifiad arall, a
(ii)yn debyg o ddioddef gan niwed o bwys os yw’n dianc, neu
(b)bod y plentyn, os yw’n cael ei gadw mewn llety o unrhyw ddisgrifiad arall, yn debyg o anafu ei hun neu bersonau eraill.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)pennu—
(i)cyfnod na chaniateir i blentyn gael ei gadw y tu hwnt iddo mewn llety diogel yng Nghymru heb awdurdod y llys, a
(ii)y cyfnod hwyaf y caiff y llys awdurdodi bod plentyn yn cael ei gadw amdano mewn llety diogel yng Nghymru;
(b)rhoi pŵer i’r llys i awdurdodi o bryd i’w gilydd fod plentyn yn cael ei gadw mewn llety diogel yng Nghymru am unrhyw gyfnod pellach y bydd y rheoliadau yn ei bennu;
(c)darparu bod ceisiadau i’r llys o dan yr adran hon i’w gwneud gan awdurdod lleol [F1neu awdurdod lleol yn Lloegr] yn unig.
(3)Mae’n ddyletswydd ar lys sy’n gwrando cais o dan yr adran hon i ddyfarnu a yw unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cadw plentyn mewn llety diogel wedi eu bodloni yn achos y plentyn.
(4)Os bydd llys yn dyfarnu bod unrhyw feini prawf o’r fath wedi eu bodloni, rhaid iddo wneud gorchymyn yn awdurdodi bod y plentyn i’w gadw mewn llety diogel ac yn pennu’r cyfnod hwyaf ar gyfer cadw’r plentyn felly.
(5)Os caiff gwrandawiad cais o dan yr adran hon ei ohirio, caiff y llys wneud gorchymyn interim yn caniatáu i’r plentyn gael ei gadw mewn llety diogel yn ystod cyfnod y gohiriad.
(6)Ni chaiff unrhyw lys arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran hon mewn cysylltiad â phlentyn nad yw wedi ei gynrychioli’n gyfreithiol yn y llys hwnnw, oni bai ei fod, ar ôl cael ei hysbysu am ei hawl i wneud cais am [F2y ddarpariaeth o gynrychiolaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012] ac wedi cael cyfle i wneud hynny, wedi gwrthod neu wedi methu â gwneud cais.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—
(a)bod yr adran hon i’w chymhwyso neu nad yw i’w chymhwyso i unrhyw ddisgrifiad o blant a bennir yn y rheoliadau;
(b)bod yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â phlant o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau yn ddarostyngedig i addasiadau a bennir yn y rheoliadau;
(c)bod darpariaethau eraill a bennir yn y rheoliadau i gael effaith at ddibenion dyfarnu a ganiateir i blentyn o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gael ei leoli neu ei gadw mewn llety diogel yng Nghymru.
(8)Nid yw rhoi awdurdodiad o dan yr adran hon yn rhagfarnu unrhyw bŵer sydd gan unrhyw lys yn Lloegr a Chymru i roi cyfarwyddiadau ynglŷn â’r plentyn y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef.
(9)Nid yw rhoi awdurdodiad o dan yr adran hon yn rhagfarnu effaith unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan lys yn yr Alban ynglŷn â phlentyn y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef, i’r graddau y mae’r cyfarwyddyd yn cael effaith yng nghyfraith Lloegr a Chymru.
(10)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 76(5).
[F3(11)Bydd gorchymyn a wneir o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn, pe byddai fel arall yn parhau i fod mewn grym, yn peidio â chael effaith pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 119(2)(c) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 304(a)
F2Geiriau yn a. 119(6) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 304(b)
F3A. 119(11) wedi ei fewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 304(c)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 119 wedi ei eithrio (6.4.2016) gan Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1988), rhlau. 1(2), 14
C2A. 119 wedi ei addasu (6.4.2016) gan Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1988), rhlau. 1(2), 15
C3A. 119 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (6.4.2016) gan Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1988), rhlau. 1(2), 16
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: