RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodolLL+C

120Asesu plant y mae llety’n cael ei ddarparu iddynt gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysgLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg (“yr awdurdod lletya”)—

(a)am gyfnod olynol o 3 mis o leiaf, neu

(b)gyda’r bwriad, ar ran yr awdurdod, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r awdurdod lletya hysbysu swyddog priodol yr awdurdod cyfrifol—

(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a

(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod cyfrifol” ac “yr awdurdod sy’n gyfrifol” yw—

(a)yr awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n ymddangos i’r awdurdod lletya mai’r awdurdod hwnnw yw’r un lle yr oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo gael ei letya, neu

(b)pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lletya nad oedd plentyn yn preswylio fel arfer o fewn ardal unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi.

(4)Yn yr adran hon ac yn adrannau 121 a 122 ystyr “swyddog priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag awdurdod lleol, ei gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, a

(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol yn Lloegr, ei gyfarwyddwr gwasanaethau plant.

(5)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon [F1, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg)], rhaid i’r awdurdod—

(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a

(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(6)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (5)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 120 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)