RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodol

120Asesu plant y mae llety’n cael ei ddarparu iddynt gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg (“yr awdurdod lletya”)—

(a)

am gyfnod olynol o 3 mis o leiaf, neu

(b)

gyda’r bwriad, ar ran yr awdurdod, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

(2)

Rhaid i’r awdurdod lletya hysbysu swyddog priodol yr awdurdod cyfrifol—

(a)

ei fod yn lletya’r plentyn, a

(b)

pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

(3)

Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod cyfrifol” ac “yr awdurdod sy’n gyfrifol” yw—

(a)

yr awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n ymddangos i’r awdurdod lletya mai’r awdurdod hwnnw yw’r un lle yr oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo gael ei letya, neu

(b)

pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lletya nad oedd plentyn yn preswylio fel arfer o fewn ardal unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi.

(4)

Yn yr adran hon ac yn adrannau 121 a 122 ystyr “swyddog priodol” yw—

(a)

mewn perthynas ag awdurdod lleol, ei gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, a

(b)

mewn perthynas ag awdurdod lleol yn Lloegr, ei gyfarwyddwr gwasanaethau plant.

(5)

Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon F1, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg), rhaid i’r awdurdod—

(a)

asesu’r plentyn o dan adran 21, a

(b)

ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(6)

Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (5)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)

awdurdod lleol,

(b)

awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)

awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)

ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.