A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
A. 120 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)
Geiriau yn a. 120(5) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 305
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg (“yr awdurdod lletya”)—
am gyfnod olynol o 3 mis o leiaf, neu
gyda’r bwriad, ar ran yr awdurdod, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.
Rhaid i’r awdurdod lletya hysbysu swyddog priodol yr awdurdod cyfrifol—
ei fod yn lletya’r plentyn, a
pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.
Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod cyfrifol” ac “yr awdurdod sy’n gyfrifol” yw—
yr awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n ymddangos i’r awdurdod lletya mai’r awdurdod hwnnw yw’r un lle yr oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo gael ei letya, neu
pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lletya nad oedd plentyn yn preswylio fel arfer o fewn ardal unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi.
Yn yr adran hon ac yn adrannau 121 a 122 ystyr “swyddog priodol” yw—
mewn perthynas ag awdurdod lleol, ei gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, a
mewn perthynas ag awdurdod lleol yn Lloegr, ei gyfarwyddwr gwasanaethau plant.
Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon
asesu’r plentyn o dan adran 21, a
ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.
Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (5)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—
awdurdod lleol,
awdurdod lleol yn Lloegr,
awdurdod lleol yn yr Alban, neu
ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.