xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodolLL+C

122Ymwelwyr â phlant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F1...LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw swyddog priodol i awdurdod lleol—

(a)wedi ei hysbysu mewn cysylltiad â phlentyn o dan adran 120(2)(a) neu 121(2)(a), [F2neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol),] a

(b)heb ei hysbysu mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw o dan adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b) [F3, neu o dan adran 85(2) o Ddeddf Plant 1989].

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau a wneir o dan yr adran hon, wneud trefniadau er mwyn i gynrychiolydd yr awdurdod (“cynrychiolydd”) fynd i ymweld â’r plentyn.

(3)Dyletswydd cynrychiolydd yw rhoi cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynghylch y modd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r plentyn.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch—

(a)amlder yr ymweliadau o dan drefniadau ymweld;

(b)amgylchiadau y mae’n rhaid i drefniadau ymweld odanynt ei gwneud yn ofynnol bod rhywun yn ymweld â’r plentyn;

(c)swyddogaethau ychwanegol cynrychiolydd.

(5)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun fod gan y person dewisol y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)Yn yr adran hon ystyr “trefniadau ymweld” yw’r trefniadau a wneir o dan is-adran (2).