RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodol

123Gwasanaethau i blant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt o dan adran 120 neu 121

1

Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121.

2

Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.

3

Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.

4

Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.