RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Symud plant sy’n derbyn gofal i fyw y tu allan i’r awdurdodaeth
124Trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a Chymru
(1)
Ni chaiff awdurdod lleol drefnu, neu helpu i drefnu, i blentyn yn ei ofal fyw y tu allan i Loegr a Chymru heb gymeradwyaeth y llys.
(2)
Caiff awdurdod lleol, gyda chymeradwyaeth pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn drefnu, neu helpu i drefnu, i unrhyw blentyn arall sy’n derbyn gofal ganddo i fyw y tu allan i Loegr a Chymru.
(3)
Ni chaiff y llys roi ei gymeradwyaeth i hyn o dan is-adran (1) oni chaiff ei fodloni—
(a)
y byddai byw y tu allan i Loegr a Chymru er lles pennaf y plentyn,
(b)
y gwnaed, neu y gwneir, trefniadau addas i dderbyn y plentyn a threfniadau addas er ei lesiant yn y wlad lle bydd yn byw,
(c)
bod y plentyn wedi cydsynio i fyw yn y wlad honno, a
(d)
bod pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wedi cydsynio bod y plentyn yn byw yn y wlad honno.
(4)
Pan fo’r llys wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i gydsynio neu wrthod cydsynio, caiff anwybyddu is-adran (3)(c) a chymeradwyo os bydd y plentyn yn mynd i fyw yn y wlad sydd o dan sylw gyda rhiant, gwarcheidwad, gwarcheidwad arbennig, neu berson addas arall.
(5)
Pan fo person y mae angen ei gydsyniad gan is-adran (3)(d) yn methu â chydsynio, caiff y llys hepgor cydsyniad y person hwnnw os yw wedi ei fodloni—
(a)
nad oes modd dod o hyd i’r person neu nad oes gan y person alluedd i gydsynio, neu
(b)
bod llesiant y plentyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cydsyniad gael ei hepgor.
(6)
Nid yw adran 85 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (sy’n gosod cyfyngiadau ar fynd â phlant allan o’r Deyrnas Unedig) yn gymwys yn achos plentyn a fydd yn byw y tu allan i Loegr a Chymru gyda chymeradwyaeth y llys a roddir o dan yr adran hon.
(7)
Pan fydd llys yn penderfynu rhoi ei gydsyniad o dan yr adran hon, caiff orchymyn nad yw ei benderfyniad i gael effaith yn ystod y cyfnod apelio.
(8)
Yn is-adran (7) ystyr “y cyfnod apelio” yw—
(a)
lle y gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, y cyfnod rhwng gwneud y penderfyniad a dyfarnu ar yr apêl, a
(b)
fel arall, y cyfnod pryd y caniateir apelio yn erbyn y penderfyniad.
F1(9)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sy’n lleoli plentyn i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr.