RHAN 7DIOGELU

Oedolion sy’n wynebu risg

I1I2127Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

1

Caiff swyddog awdurdodedig wneud cais i ynad heddwch am orchymyn (“gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn”) mewn perthynas â pherson sy’n byw mewn unrhyw fangre o fewn ardal awdurdod lleol.

2

Dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn yw—

a

galluogi’r swyddog awdurdodedig ac unrhyw berson arall sydd gyda’r swyddog i gael sgwrs breifat gyda’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg,

b

galluogi’r swyddog awdurdodedig i ganfod a yw’r person hwnnw’n gwneud penderfyniadau o’i wirfodd, ac

c

galluogi’r swyddog awdurdodedig i asesu’n iawn a yw’r person yn oedolyn sy’n wynebu risg ac i wneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.

3

Pan fo gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn mewn grym, caiff y swyddog awdurdodedig, cwnstabl ac unrhyw berson penodedig arall sydd gyda’r swyddog hwnnw yn unol â’r gorchymyn, fynd i mewn i’r fangre a bennir yn y gorchymyn at y dibenion a nodir yn is-adran (2).

4

Caiff yr ynad heddwch wneud gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn os yw wedi ei fodloni—

a

bod gan y swyddog awdurdodedig sail resymol dros amau bod y person yn oedolyn sy’n wynebu risg,

b

ei bod yn angenrheidiol i’r swyddog awdurdodedig gael gweld y person er mwyn asesu’n iawn a yw’r person hwnnw’n oedolyn sy’n wynebu risg a gwneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd,

c

bod gwneud gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion a nodir yn is-adran (2), a

d

na fydd arfer y pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn yn peri i’r oedolyn fod mewn mwy o berygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

5

Rhaid i orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn—

a

pennu’r fangre y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi;

b

darparu y caiff cwnstabl fod gyda’r swyddog awdurdodedig;

c

pennu’r cyfnod pryd y bydd y gorchymyn mewn grym.

6

Caniateir i amodau eraill gael eu gosod ar orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn, er enghraifft—

a

pennu cyfyngiadau ar yr amser pan ganiateir i’r pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn gael ei arfer;

b

darparu i berson penodedig arall fod gyda’r swyddog awdurdodedig;

c

ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad am y gorchymyn gael ei roi i feddiannydd y fangre a’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg.

7

Caiff cwnstabl sydd gyda’r swyddog awdurdodedig ddefnyddio grym rhesymol os yw’n angenrheidiol er mwyn cyflawni dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn fel a nodir yn is-adran (2).

8

Wrth fynd i mewn i’r fangre yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn rhaid i’r swyddog awdurdodedig—

a

datgan diben yr ymweliad,

b

dangos tystiolaeth o’r awdurdodiad i fynd i mewn i’r fangre, ac

c

rhoi esboniad i feddiannydd y fangre am sut i gwyno ynghylch sut y mae’r pŵer mynediad wedi cael ei arfer.

9

Yn yr adran hon ystyr “swyddog awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon, ond caiff rheoliadau osod cyfyngiadau ar y personau neu’r categorïau o bersonau y caniateir eu hawdurdodi.