RHAN 7DIOGELU
Plant sy’n wynebu risg
I1I2130Dyletswydd i hysbysu am blant sy’n wynebu risg
1
Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn yn blentyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y plentyn hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.
2
Os yw’n ymddangos bod y plentyn, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y plentyn hwnnw yn blentyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.
3
Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn blentyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw o fewn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.
4
Yn yr adran hon, “plentyn sy’n wynebu risg” yw plentyn—
a
sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, a
b
y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio).
5
At ddibenion yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn—
a
person sy’n bartner perthnasol yr awdurdod lleol at ddibenion adran 162;
b
tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod.
6
Am ddarpariaeth ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i ymchwilio i blant sy’n wynebu risg, gweler adran 47 o Ddeddf Plant 1989.