RHAN 7DIOGELU

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

I1I2134Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

1

Rhaid i reoliadau nodi’r ardaloedd hynny yng Nghymru (“ardaloedd Byrddau Diogelu”) y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer.

2

Mae pob un o’r canlynol yn bartner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal Bwrdd Diogelu—

a

yr awdurdod lleol dros ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

b

prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

c

Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

d

F3Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal Bwrdd Diogelu;

e

yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;

f

unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas â’r ardal Bwrdd Diogelu.

3

Ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal, rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu—

a

partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas â phlant, a

b

partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas ag oedolion.

4

Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas â phlant sefydlu Bwrdd Diogelu Plant ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

5

Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion sefydlu Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

6

Rhaid i Fwrdd Diogelu gynnwys—

a

cynrychiolydd i bob partner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn is-adran (2) mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu, a

b

cynrychiolydd unrhyw berson neu gynrychiolydd i gorff arall a bennir mewn rheoliadau fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu.

7

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu person neu gorff fel partner Bwrdd Diogelu ond os yw’r person neu’r corff hwnnw yn arfer swyddogaethau o dan ddeddfiad mewn perthynas â phlant yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, oedolion yng Nghymru.

8

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu un o Weinidogion y F2 Goron, llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu, yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr) F1na phennaeth coleg diogel fel partner Bwrdd Diogelu oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

9

Caiff Bwrdd Diogelu gynnwys cynrychiolwyr unrhyw bersonau neu gyrff eraill, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff a grybwyllir yn is-adran (10), y mae’r Bwrdd o’r farn y dylent gael eu cynrychioli arno.

10

Mae’r personau neu’r cyrff hynny’n bersonau ac yn gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â phlant neu oedolion (yn ôl y digwydd) yn yr ardal Bwrdd Diogelu o dan sylw.

11

Yn yr adran hon—

a

mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;

b

mae i gyfeiriad at ganolfan hyfforddi ddiogel wedi ei chontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out secure training centre” gan adran 15 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994;

c

mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.