RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Awdurdodau lleol

I2I1143Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol

1

At ddibenion y Ddeddf hon, swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yw ei swyddogaethau o dan y deddfiadau a grybwyllir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 2 i’r Ddeddf hon (sef y swyddogaethau a ddisgrifir yn gyffredinol yn ail golofn yr Atodlen honno).

2

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

a

ychwanegu eitemau at y tabl;

b

dileu eitemau o’r tabl;

c

diwygio eitemau yn y tabl.