RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

F1Adolygiadau

Annotations:

149BAdolygiadau o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol

1

Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol eu harfer.

2

Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru—

a

adolygu’r arferiad cyffredinol o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru;

b

adolygu’r ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol penodol eu harfer;

c

adolygu’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol o ddisgrifiad penodol (pa un a yw wedi ei harfer gan un awdurdod lleol neu gan ddau neu ragor o awdurdodau yn cydweithio);

d

adolygu’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol gan berson neu bersonau penodol.

3

Mae cyfeiriad yn is-adran (2) at arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol gan awdurdod lleol yn cynnwys cyfeiriad at gomisiynu unrhyw wasanaethau mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru—

a

llunio a chyhoeddi adroddiad ar adolygiad a gynhelir o dan is-adran (1), a

b

gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

5

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch graddau y caniateir iddynt gael eu rhoi mewn perthynas â’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol benodedig.

6

Os gwneir rheoliadau o dan is-adran (5) mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, rhaid i Weinidogion Cymru—

a

wrth gynnal adolygiad o’r arferiad o’r swyddogaeth honno, roi gradd yn unol â’r rheoliadau, a

b

cynnwys y radd yn eu hadroddiad ar yr adolygiad.

7

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (5) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

8

Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

a

sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran hon, a

b

nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.