RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

F1Adolygiadau

Annotations:

149DYstyriaethau cyffredinol

Wrth gynnal adolygiad o dan adran 149A neu 149B, rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol sy’n cael eu hadolygu, roi sylw i—

a

argaeledd a hygyrchedd y gwasanaethau;

b

ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau;

c

y ffordd y caiff y gwasanaethau eu rheoli;

d

darbodaeth ac effeithlonrwydd eu darpariaeth a’u gwerth am arian;

e

argaeledd ac ansawdd yr wybodaeth a ddarperir i bobl yn ardal yr awdurdod lleol ynghylch y gwasanaethau;

f

y dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 5 (dyletswydd i hyrwyddo llesiant), 6 (dyletswyddau hollgyffredinol eraill) a 7 (dyletswyddau sy’n ymwneud ag Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig) i’r graddau y bônt yn berthnasol i’r gwasanaethau ac effeithiolrwydd y camau a gymerir gan awdurdod lleol i gyflawni’r dyletswyddau hynny;

g

effeithiolrwydd y camau a gymerir gan awdurdod lleol i sicrhau’r canlyniadau a bennir mewn datganiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 (datganiad o ganlyniadau sy’n ymwneud â llesiant) i’r graddau y bônt yn berthnasol i’r gwasanaethau;

h

unrhyw fesurau perfformiad a thargedau perfformiad a nodir mewn cod a ddyroddir o dan adran 9 sy’n berthnasol yn eu barn hwy;

i

unrhyw ofynion neu ganllawiau sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 sy’n berthnasol yn eu barn hwy;

j

y graddau y mae awdurdod lleol wedi cynnwys pobl o ardal yr awdurdod lleol—

i

mewn penderfyniadau ynghylch y ffordd y mae ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu harfer, a

ii

wrth adolygu’r arferiad o’r swyddogaethau hynny.