(1)Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).
(2)Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—
(a)ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);
(b)yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);
(c)yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);
(d)sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;
(e)unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);
(f)manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;
(g)yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.
(3)Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 [F2, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.
(4)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).
(5)Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno [F3a daduno] byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).
(6)Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—
(a)unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;
(b)unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.
(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—
(a)sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;
(b)ynghylch adolygu cynllun;
(c)ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;
(d)ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 14A wedi ei fewnosod (6.4.2016) gan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (anaw 2), a. 56(2), Atod. 4 para. 34; O.S. 2016/86, ergl. 4
F2Geiriau yn a. 14A(3) wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 8(a)
F3Geiriau yn a. 14A(5) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 8(b)