RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog

I1I2152Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

1

Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

2

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

b

os yw awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—

a

bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sy’n galw am ymyrraeth frys o dan y Rhan hon, neu

b

ei bod yn annhebygol y byddai’r awdurdod lleol yn gallu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 90 diwrnod i’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd yn unol â’r ymyriad.

5

Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, rhaid iddynt adolygu’n gyson yr amgylchiadau sy’n rhoi cychwyn i’r pŵer.

6

Os daw Gweinidogion Cymru i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi cael eu trin er boddhad iddynt neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Rhan hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu casgliad.

7

Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (6).

8

Hyd nes y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bob 6 mis o’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd yn unol â’r ymyriad.

9

Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau gweithredu yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.