RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog
I1I2155Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
2
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt hwy.
3
Os gwneir cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.
4
Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.