RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

F1Gorfodi

Annotations:

161BPŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu

1

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dod o fewn is-adran (2) ddarparu iddynt—

a

unrhyw ddogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol neu gofnodion personol eraill) neu wybodaeth arall⁠—

i

sy’n ymwneud ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, a

ii

y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus eu cael at ddibenion adolygiad o dan adran 149A neu 149B;

b

esboniad am gynnwys—

i

unrhyw ddogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall a ddarperir o dan baragraff (a), neu

ii

unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 mewn cysylltiad ag adolygiad o dan adran 149B.

2

Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

a

awdurdod lleol;

b

person sy’n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

c

Bwrdd Iechyd Lleol;

d

ymddiriedolaeth GIG,

ond ni ellir ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG ddarparu esboniad am gynnwys unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161.

3

Nid yw’n ofynnol i berson ddarparu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall o dan is-adran (1) os yw’r person wedi ei wahardd rhag eu darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

4

Mae’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.