RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

F1Gorfodi

161CTroseddau

(1)

Mae’n drosedd i berson—

(a)

mynd ati’n fwriadol i rwystro cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 gan arolygydd, neu

(b)

methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person gan arolygydd sy’n cynnal arolygiad o’r fath.

(2)

Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir ar y person gan Weinidogion Cymru o dan adran 161B(1).

(3)

Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1)(b) neu (2) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r gofyniad.

(4)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)

ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)

ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(5)

Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.”