[F1164A.Dyletswydd personau eraill i gydweithredu a darparu gwybodaethLL+C
(1)Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer ei swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—
(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu
(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.
(2)Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei hangen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—
(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu
(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.
(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.
(4)Y personau yw—
(a)awdurdod lleol yn Lloegr;
(b)awdurdod tai lleol yn Lloegr;
(c)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
(d)unrhyw grŵp comisiynu clinigol, Awdurdod Iechyd Arbennig, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, neu ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
(e)unrhyw bersonau eraill—
(i)a bennir gan reoliadau, neu
(ii)o ddisgrifiad a bennir gan reoliadau.
(5)Y swyddogaethau yw—
(a)swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig);
(b)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc, yn benodol y rhai hynny y mae arnynt anghenion gofal a chymorth, a’u teuluoedd ac eraill;
(c)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya;
(d)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115.
(6)Ni chaniateir i reoliadau o dan is-adran (4)(e) bennu’r personau a ganlyn heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol—
(a)un o Weinidogion y Goron, na
(b)llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr).
(7)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod tai lleol” yw awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” yn Neddf Tai 1985.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 164A wedi ei fewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 312