RHAN 9CYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH
Cydweithrediad
I2I1165Hyrwyddo integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd etc
1
Rhaid i awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gyda golwg ar sicrhau bod darpariaeth gofal a chymorth yn cael ei hintegreiddio â darpariaeth iechyd a darpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd pan fo’n ystyried y byddai hyn yn—
a
hyrwyddo llesiant—
i
plant o fewn ardal yr awdurdod,
ii
oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, neu
iii
gofalwyr o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am gymorth,
b
cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion gan blant neu oedolion o fewn ei ardal am ofal a chymorth neu ddatblygiad anghenion gan ofalwyr o fewn ei ardal am gymorth, neu
c
gwella ansawdd y gofal a’r cymorth i blant ac oedolion, a’r cymorth i ofalwyr, a ddarperir yn ei ardal (gan gynnwys y canlyniadau sy’n cael eu sicrhau drwy ddarpariaeth o’r fath).
2
Ystyr “darpariaeth gofal a chymorth” yw—
a
darpariaeth i ddiwallu anghenion plant ac oedolion am ofal a chymorth, a
b
darpariaeth i ddiwallu anghenion gofalwyr am gymorth.
3
Ystyr “darpariaeth iechyd” yw darpariaeth o ran gwasanaethau iechyd fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
4
Ystyr “darpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd” yw darpariaeth o ran gwasanaethau a allai effeithio ar iechyd unigolion ond nad ydynt—
a
yn wasanaethau iechyd a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd, neu
b
yn wasanaethau a ddarperir wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
5
Ystyr “gwasanaeth iechyd” yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.