RHAN 9CYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH
Trefniadau partneriaeth
I2I1167Adnoddau ar gyfer trefniadau partneriaeth
1
Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol dalu tuag at y gwariant a dynnir at ddibenion trefniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166 neu a dynnir yn gysylltiedig â’r trefniadau hynny—
a
drwy wneud taliadau’n uniongyrchol, neu
b
drwy gyfrannu at gronfa gyfun.
2
Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill at ddibenion trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny.
3
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cyllido trefniadau partneriaeth, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth—
a
sy’n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol yn sefydlu ac yn cynnal cronfa gyfun;
b
ar gyfer dyfarnu swm y cyfraniadau sydd i’w gwneud gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol i gronfa gyfun;
c
ynghylch gwariant ar gyfer swyddi neu gategorïau o swyddi a sefydlir at ddiben trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny;
d
ynghylch gwariant ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn unol â threfniadau partneriaeth;
e
ynghylch gwariant ar gyfer gweinyddu trefniadau partneriaeth;
f
ynghylch gwariant at unrhyw ddiben arall sy’n gysylltiedig â threfniadau partneriaeth.
4
Yn yr adran hon ystyr “cronfa gyfun” yw cronfa a sefydlwyd ac a gynhaliwyd gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol, y caniateir i daliadau gael eu tynnu ohoni tuag at y gwariant a dynnir at ddibenion trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny.