(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyried cwynion ynghylch—
(a)y modd y mae awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;
(b)y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny;
(c)y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdod lleol neu berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 mewn perthynas â swyddogaethau corff GIG (o fewn ystyr “NHS body” yn yr adran berthnasol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn yn cael ei hystyried gan un neu fwy o’r canlynol—
(a)yr awdurdod lleol y gwneir y gŵyn amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;
(b)panel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;
(c)unrhyw berson neu gorff arall ac eithrio un o Weinidogion y Goron.
(3)Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn neu unrhyw fater arall a godir gan y gŵyn—
(a)yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r gŵyn neu’r mater o dan [F1Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019] (ac yn cael ei thrin neu ei drin fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan [F2adran 3(3)] o’r Ddeddf honno);
(b)yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff arall er mwyn i’r person neu’r corff hwnnw ystyried p’un a yw am gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai sydd i’w cymryd o dan y rheoliadau.
(4)Ond ni chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cwynion y gellir eu hystyried yn sylwadau o dan adran 174 neu 176.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 171(3)(a) wedi eu hamnewid (23.7.2019) gan Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (anaw 3), a. 77(1), Atod. 5 para. 26(a); O.S. 2019/1096, rhl. 2
F2Geiriau yn a. 171(3)(a) wedi eu hamnewid (23.7.2019) gan Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (anaw 3), a. 77(1), Atod. 5 para. 26(b); O.S. 2019/1096, rhl. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 171 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)