RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Trefniadau lleol
I2I118Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill
1
Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o’r bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac—
a
sydd â nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg,
b
sydd â nam ar eu clyw neu nam difrifol ar eu clyw, neu
c
sydd â nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd.
2
Rhaid i’r gofrestr nodi, mewn cysylltiad â phob person sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr—
a
y paragraff yn is-adran (1) y mae’r person hwnnw yn dod o’i fewn, a
b
amgylchiadau ieithyddol y person.
3
Caiff rheoliadau bennu, at ddibenion is-adran (1), gategorïau o bobl sydd i’w trin, neu nad ydynt i’w trin, fel pe baent yn dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c) o’r is-adran honno.
4
Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o blant y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.
5
Caiff awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o oedolion y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol.
6
Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—
a
sy’n anabl,
b
nad yw’n anabl ond y mae ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain, neu y mae’r awdurdod yn barnu y gall yn y dyfodol arwain, at anghenion am ofal a chymorth, neu
c
sy’n dod o fewn unrhyw gategori arall o bersonau y mae’r awdurdod yn barnu ei bod yn briodol ei gynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae arnynt, neu y mae’r awdurdod yn ystyried y gall fod arnynt yn y dyfodol, anghenion am ofal a chymorth.
7
O ran awdurdod lleol—
a
caiff gategoreiddio pobl sydd wedi eu cynnwys mewn cofrestr o dan is-adran (4) neu (5) fel y gwêl yn dda, a
b
rhaid iddo nodi amgylchiadau ieithyddol y bobl hynny yn y gofrestr berthnasol.
8
Caniateir i’r cofrestrau a lunnir ac a gedwir o dan yr adran hon gael eu defnyddio wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod; er enghraifft, er mwyn—
a
cynllunio’r modd y mae’r awdurdod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr, a
b
monitro newidiadau dros amser yn nifer y bobl yn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a’r mathau o anghenion sydd ganddynt hwy neu eu gofalwyr.
9
Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon oni bai—
a
bod y person wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn y gofrestr, neu
b
bod cais i’w gynnwys felly wedi ei wneud ar ran y person.
10
Pan fo awdurdod lleol yn cynnwys person mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon—
a
rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys felly, a
b
os gwneir cais gan y person neu ar ran y person, rhaid i’r awdurdod ddileu o’r gofrestr unrhyw ddata personol F1(o fewn ystyr “
personal data
”
yn Rhan 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(2) a (14) o'r Ddeddf honno)) sy’n ymwneud â’r person hwnnw.