RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amrywiol

I1I2184Ymchwil a darparu gwybodaeth

1

Caiff Gweinidogion Cymru wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

a

â’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon,

b

â’r swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12),

c

â swyddogaethau’r Byrddau Iechyd Lleol o dan y Ddeddf hon, neu

d

â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

2

Caiff awdurdod lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

a

ag unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), neu

b

â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

3

Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

a

â’r modd y mae’r awdurdod yn cyflawni unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), a

b

â’r personau y mae’r awdurdod wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

5

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

a

â’r modd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, a

b

â’r personau y mae wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

6

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i bartner arweiniol Bwrdd Diogelu ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad â’r modd y mae’r Bwrdd hwnnw yn cyflawni ei swyddogaethau.

7

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gwirfoddol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad ag oedolion sydd wedi eu lletya gan y sefydliad neu ar ei ran.

8

Rhaid cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (4), (5), (6) neu (7) drwy ddarparu’r wybodaeth ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adeg sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

9

Caiff yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu o dan is-adran (4) gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â phlant unigol ac sy’n golygu bod modd adnabod plant unigol, ond dim ond os oes angen yr wybodaeth honno er mwyn llywio—

a

y broses o adolygu a datblygu polisi ac arfer sy’n ymwneud â llesiant plant, neu

b

y broses o wneud ymchwil sy’n ymwneud â llesiant plant.

10

Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob blwyddyn osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru grynodeb o’r wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adrannau (4), (5), (6) a (7), ond rhaid i’r crynodeb beidio â chynnwys gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod plentyn unigol neu sy’n caniatáu i blentyn unigol gael ei adnabod.

11

Yn yr adran hon—

  • ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134, ac

  • ystyr “partner arweiniol Bwrdd Diogelu” (“the lead partner of a Safeguarding Board”) yw’r partner Bwrdd Diogelu a bennir fel y partner arweiniol mewn rheoliadau o dan adran 134.

12

Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1), (2) a (4) yw—

a

unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon;

b

unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol fel partner iechyd meddwl lleol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.