RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION
Asesu oedolion
I2I1C119Dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth
1
Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar oedolyn anghenion am ofal a chymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—
a
a oes ar yr oedolyn anghenion am ofal a chymorth, a
b
os oes, beth yw’r anghenion hynny.
2
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—
a
oedolyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a
b
unrhyw oedolyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.
3
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth yw barn yr awdurdod lleol ar—
a
lefel anghenion yr oedolyn am ofal a chymorth, neu
b
lefel adnoddau ariannol yr oedolyn.
4
Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—
a
ceisio canfod y canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu sicrhau mewn bywyd o ddydd i ddydd,
b
asesu a allai darparu—
i
gofal a chymorth,
ii
gwasanaethau ataliol, neu
iii
gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,
gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac
c
asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.
5
Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—
a
yr oedolyn, a
b
pan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn.
6
Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.