Search Legislation

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 19

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 19 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 23 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

19Dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorthLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar oedolyn anghenion am ofal a chymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—

(a)a oes ar yr oedolyn anghenion am ofal a chymorth, a

(b)os oes, beth yw’r anghenion hynny.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—

(a)oedolyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a

(b)unrhyw oedolyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth yw barn yr awdurdod lleol ar—

(a)lefel anghenion yr oedolyn am ofal a chymorth, neu

(b)lefel adnoddau ariannol yr oedolyn.

(4)Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ceisio canfod y canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu sicrhau mewn bywyd o ddydd i ddydd,

(b)asesu a allai darparu—

(i)gofal a chymorth,

(ii)gwasanaethau ataliol, neu

(iii)gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac

(c)asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

(a)yr oedolyn, a

(b)pan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn.

(6)Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 19 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?