RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Amrywiol
190Methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros dro
(1)
Nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion a oedd, yn union cyn i’r person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli, yn cael eu diwallu—
(a)
o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014;
(b)
o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn yr Alban wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 12 neu 13A o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 25 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003;
(c)
o dan drefniadau a wnaed gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14)) neu adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002;
(d)
drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed—
F1(i)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F2(ia)
by virtue of sections 31 to 33 of the Care Act 2014,
(ii)
o ganlyniad i’r dewis a wnaed gan yr oedolyn yn unol ag adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013, neu
(iii)
yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002.
(2)
“(a)
o dan drefniadau a wnaed neu drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarparwyd gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan—
(i)
Rhan 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948,
(ii)
adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968,
(iii)
adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(iv)
Atodlen 20 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, neu
(v)
adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000;”.
(3)
“(ii)
o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, neu”.