(1)Nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion a oedd, yn union cyn i’r [F1darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig], yn cael eu diwallu—
(a)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014;
(b)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn yr Alban wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 12 neu 13A o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 25 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003;
(c)o dan drefniadau a wnaed gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14)) neu adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002;
(d)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed—
F2(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F3(ia)by virtue of sections 31 to 33 of the Care Act 2014,]
(ii)o ganlyniad i’r dewis a wnaed gan yr oedolyn yn unol ag adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013, neu
(iii)yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002.
(2)Wrth ddisgwyl i Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014 gychwyn, mae is-adran (1)(a) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—
“(a)o dan drefniadau a wnaed neu drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarparwyd gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan—
(i)Rhan 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948,
(ii)adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968,
(iii)adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(iv)Atodlen 20 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, neu
(v)adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000;”.
(3)Wrth ddisgwyl i adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013 gychwyn, mae is-adran (1)(d)(ii) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—
“(ii)o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, neu”.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 190(1) wedi eu hamnewid (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 34; O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag erglau. 6, 8)
F2A. 190(1)(d)(i) wedi ei hepgor (6.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 314
F3A. 190(1)(d)(ia) wedi ei fewnosod (1.4.2015) gan The Care Act 2014 and Children and Families Act 2014 (Consequential Amendments) Order 2015 (O.S. 2015/914), ergl. 1(2), Atod. para. 98 (ynghyd ag erglau. 1(3), 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 190 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)