xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—
(a)pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i berson sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”), a
(b)pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu naill ai—
(i)i ddiwallu anghenion brys er mwyn diogelu llesiant y person, neu
(ii)gyda chydsyniad awdurdod B.
(2)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu neu drefnu’r gofal a’r cymorth.
(3)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan adran 76(1) i blentyn a oedd (yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn) yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F1neu awdurdod lleol yn Lloegr], caiff adennill oddi wrth yr awdurdod arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu llety o dan adran 77(1) neu (2)(a) neu (b) i blentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F2neu awdurdod lleol yn Lloegr] (“awdurdod B”) ac nad yw’n cynnal y plentyn mewn—
(a)cartref cymunedol a ddarparwyd gan awdurdod A,
(b)cartref cymunedol a reolir, neu
(c)ysbyty sydd wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu unrhyw ysbyty arall a roddwyd ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.
(5)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.
(6)Ac eithrio lle y bo [F3“is-adran (7) neu (8)] yn gymwys, pan fo awdurdod lleol yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) [F4, neu o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau),] mewn perthynas â pherson nad yw’n preswylio fel arfer yn ei ardal, caiff adennill unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo mewn cysylltiad â’r person hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol [F5neu awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
(7)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) gan awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson ac awdurdod B yw’r awdurdod lleol cyfrifol o fewn ystyr adran 104 ar gyfer y person hwnnw, caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
[F6(8)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau) gan awdurdod lleol yn Lloegr (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson—
(a)ac awdurdod B yw ei awdurdod cyfrifol (o fewn ystyr Rhan 3 o’r Ddeddf honno) at ddibenion adran 23B neu 23C o’r Ddeddf honno, neu
(b)y mae awdurdod B yn ei gynghori neu’n ymgyfeillio ag ef neu y mae’n rhoi cynhorthwy iddo yn rhinwedd adran 24(5)(a) o’r Ddeddf honno,
caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 o’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â’r person hwnnw.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 193(3) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 315(a)
F2Geiriau yn a. 193(4) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 315(b)
F3Geiriau yn a. 193(6) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 315(c)(i)
F4Geiriau yn a. 193(6) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 315(c)(ii)
F5Geiriau yn a. 193(6) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 315(c)(iii)
F6A. 193(8) wedi ei fewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 315(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 193 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)