RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Atodol

193Adennill costau rhwng awdurdodau lleol

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)

pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i berson sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”), a

(b)

pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu naill ai—

(i)

i ddiwallu anghenion brys er mwyn diogelu llesiant y person, neu

(ii)

gyda chydsyniad awdurdod B.

(2)

Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu neu drefnu’r gofal a’r cymorth.

(3)

Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan adran 76(1) i blentyn a oedd (yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn) yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall, caiff adennill oddi wrth yr awdurdod arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(4)

Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu llety o dan adran 77(1) neu (2)(a) neu (b) i blentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) ac nad yw’n cynnal y plentyn mewn—

(a)

cartref cymunedol a ddarparwyd gan awdurdod A,

(b)

cartref cymunedol a reolir, neu

(c)

ysbyty sydd wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu unrhyw ysbyty arall a roddwyd ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.

(5)

Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(6)

Ac eithrio lle y bo is-adran (7) yn gymwys, pan fo awdurdod lleol yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) mewn perthynas â pherson nad yw’n preswylio fel arfer yn ei ardal, caiff adennill unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo mewn cysylltiad â’r person hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol y mae’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(7)

Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) gan awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson ac awdurdod B yw’r awdurdod lleol cyfrifol o fewn ystyr adran 104 ar gyfer y person hwnnw, caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 mewn cysylltiad â’r person hwnnw.