Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

20Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer oedolynLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o’i anghenion o dan adran 19, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion yr oedolyn yn gymwys.

(2)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 19 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—

    (a)

    nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond

    (b)

    bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—

    (a)

    nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

    (c)

    y byddai cael yr asesiad er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod yr oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(3)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 19 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r oedolyn wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(4)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran yr oedolyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1 A. 20 cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 20 (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 23, 24, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 20 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)