22Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Os yw plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.
(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21 o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a)nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, a
(b)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn,
nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.
(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—
ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan blentyn, nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad;
ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;
ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y plentyn;
ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.
(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—
(a)os yw’r plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad,
(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), neu
(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,
(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).
(5)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y plentyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.