Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

24Dyletswydd i asesu anghenion gofalwr am gymorthLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar ofalwr anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—

(a)a oes ar y gofalwr anghenion am gymorth (neu a yw’n debygol y bydd arno anghenion am gymorth yn y dyfodol), a

(b)os oes, beth yw’r anghenion hynny (neu’r anghenion tebygol yn y dyfodol).

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran gofalwr sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal—

(a)i oedolyn neu blentyn anabl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, neu

(b)i unrhyw oedolyn arall neu blentyn anabl arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod—

(a)ar lefel anghenion y gofalwr am gymorth, neu

(b)ar lefel adnoddau ariannol y gofalwr neu’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(4)Wrth gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn gallu, ac y bydd yn parhau i allu, darparu gofal i’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo,

(b)asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn fodlon, ac y bydd yn parhau i fod yn fodlon, gwneud hynny,

(c)yn achos gofalwr sy’n oedolyn, ceisio canfod y canlyniadau y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau,

(d)yn achos gofalwr sy’n blentyn, ceisio canfod y canlyniadau—

(i)y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y gofalwr,

(ii)y mae’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y gofalwr, a

(iii)y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr,

(e)asesu a allai darparu—

(i)cymorth,

(ii)gwasanaethau ataliol, neu

(iii)gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac

(f)asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, roi sylw i’r materion a ganlyn—

(a)a yw’r gofalwr yn gweithio neu’n dymuno gwneud hynny,

(b)a yw’r gofalwr yn cymryd rhan, neu’n dymuno cymryd rhan, mewn gweithgareddau addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd hamdden, ac

(c)yn achos gofalwr sy’n blentyn—

(i)anghenion datblygiadol y plentyn, a

(ii)a yw’n briodol i’r plentyn ddarparu’r gofal (neu unrhyw ofal) yng ngoleuni’r anghenion hynny.

(6)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

(a)y gofalwr, a

(b)pan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(7)Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 24 cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 21 (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 23, 24, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 24 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)