27Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr o dan 16 oedLL+C
(1)Os yw—
(a)gofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, a
(b)yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad,
nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.
(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y gofalwr o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.
(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—
ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;
ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr—
(a)bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad, a
(b)nad yw’r gofalwr yn cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr;
ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y gofalwr.
(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—
(a)os yw’r gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad,
(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad, neu
(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, wedi newid,
(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).