RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION
Materion atodol
30Rheoliadau ynghylch asesu
(1)
Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth am wneud asesiadau o anghenion.
(2)
Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer adolygu asesiadau o anghenion, a chaniateir iddynt, er enghraifft, bennu—
(a)
y personau a gaiff ofyn am adolygiad o asesiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);
(b)
o dan ba amgylchiadau—
(i)
y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o asesiad, a
(ii)
na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.
(3)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd, er enghraifft, ddarparu ar gyfer—
(a)
personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys wrth iddo wneud asesiad o dan adran 19, 21 neu 24;
(b)
y ffordd y mae asesiad i’w wneud, a chan bwy a phryd;
(c)
cofnodi canlyniadau asesiad;
(d)
yr ystyriaethau y mae awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gyflawni asesiad;
(e)
pwerau i ddarparu gwybodaeth at ddibenion asesu.