RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Penderfynu beth i’w wneud ar ôl asesiad o anghenion

33Y weithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 32

1

Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 32(3) neu (4), rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a ganlyn.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y rheoliadau drafft arfaethedig â’r canlynol—

a

unrhyw bersonau y mae’n ymddangos iddynt fod y rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt,

b

unrhyw sefydliadau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt, ac

c

unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru—

a

rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y rheoliadau drafft arfaethedig,

b

ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

c

cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

5

O ran y rheoliadau drafft a osodir o dan is-adran (4)—

a

rhaid iddynt fynd gyda datganiad gan Weinidogion Cymru yn rhoi manylion unrhyw wahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt o dan is-adran (2) a’r rheoliadau drafft a osodir o dan is-adran (4), a

b

ni chaniateir iddynt gael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 196(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 60 niwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y rheoliadau drafft, ddod i ben.