RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion gofal a chymorth oedolion

I1I2C135Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn

1

Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a 3 wedi eu cyflawni (ond gweler is-adran (6)).

2

Amod 1 yw—

a

bod yr oedolyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

b

nad oes gan yr oedolyn breswylfa sefydlog a’i fod o fewn ardal yr awdurdod.

3

Amod 2 yw—

F1a

bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, neu

b

bod yr awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol diwallu’r anghenion er mwyn amddiffyn yr oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

4

Amod 3 yw—

a

nad oes unrhyw ffi yn cael ei chodi am y gofal a’r cymorth y mae eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny, neu

b

bod ffi yn cael ei chodi am y gofal a’r cymorth hwnnw ond—

i

bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol bod adnoddau ariannol yr oedolyn ar neu islaw’r terfyn ariannol,

ii

bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol bod adnoddau ariannol yr oedolyn uwchlaw’r terfyn ariannol ond bod yr oedolyn, serch hynny, yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu ei anghenion, neu

iii

bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn alluedd i drefnu ar gyfer darparu gofal a chymorth ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i wneud trefniadau o’r fath o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu sydd fel arall mewn sefyllfa i wneud hynny ar ran yr oedolyn.

5

I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.

6

Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys i anghenion oedolyn i’r graddau y mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu gan ofalwr.