(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1 a 2, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).
(2)Amod 1 yw bod y plentyn yn ardal yr awdurdod lleol.
(3)Amod 2 yw—
(a)bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, neu
(b)bod yr awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol diwallu’r anghenion er mwyn amddiffyn y plentyn—
(i)rhag cael, neu rhag risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu
(ii)rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall.
(4)Os yw’r awdurdod lleol wedi ei hysbysu am blentyn o dan adran 120(2)(a) [F1neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)], rhaid iddo drin y plentyn fel un sydd o fewn ei ardal at ddibenion yr adran hon.
(5)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys i anghenion plentyn i’r graddau y mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu gan deulu’r plentyn neu ofalwr.
(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—
(a)awdurdod lleol,
(b)awdurdod lleol yn Lloegr,
(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu
(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 37(4) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 296
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)