RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Diwallu anghenion gofalwr am gymorth
I1I241Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth: materion atodol
1
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol y gofalwr ar neu islaw’r terfyn ariannol.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol y gofalwr uwchlaw’r terfyn ariannol, a
b
os yw’r gofalwr, serch hynny, yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu’r anghenion o dan sylw.
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ar neu islaw’r terfyn ariannol, a
b
os yw is-adran (7), (8) neu (9) yn gymwys.
4
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano uwchlaw’r terfyn ariannol, a
b
os yw is-adran (7), (8) neu (9) yn gymwys.
5
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth, a
b
naill ai—
i
os yw is-adran (7), (8) neu (10) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu
ii
os yw is-adran (12) neu (13) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.
6
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn—
i
talu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth, neu
ii
talu unrhyw swm arall am y gofal a’r cymorth,
b
os nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu i’r gofal a’r cymorth gael eu darparu, ac
c
naill ai—
i
os yw is-adran (7), (8) neu (10) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu
ii
os yw is-adran (12) neu (13) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.
7
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw, a
b
os yw’r person yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
8
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw person awdurdodedig yn cytuno, ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.
9
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn hwnnw,
b
os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac
c
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ei bod er lles pennaf yr oedolyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
10
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw,
b
os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, ac
c
os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
11
Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (10)(c) os yw wedi ei fodloni na fyddai er lles pennaf y plentyn anabl.
12
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a
b
os yw’r plentyn yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
13
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a
b
os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
14
Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (13)(b) os yw wedi ei fodloni na fyddai’n gyson â llesiant y plentyn anabl.
15
Yn yr adran hon—
mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.
16
I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.