46Eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudoLL+C
(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) (gwahardd rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo a’r unig reswm y mae ei anghenion am ofal a chymorth wedi codi yw—
(a)oherwydd bod yr oedolyn yn ddiymgeledd, neu
(b)oherwydd effeithiau corfforol bod yn ddiymgeledd, neu oherwydd yr effeithiau o’r math hwnnw a ragwelir.
(2)At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(2) i (7) o Ddeddf 1999 yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(4) a (5) o’r Ddeddf honno at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw.
(3)Ond, hyd nes cychwyn adran 44(6) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae is-adran (2) i gael effaith fel pe bai’n darllen fel a ganlyn—
“(2)[F1At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(3) a (5) i (8) o Ddeddf 1999, a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi, yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(5) a (7) a’r paragraff hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw].”
(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth yn cynnwys cyfeiriad at wneud hynny er mwyn diwallu anghenion gofalwr am gymorth.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 46(3) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 63; O.S. 2016/467, ergl. 3
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)