RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadau

46Eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo

(1)

Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) (gwahardd rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo a’r unig reswm y mae ei anghenion am ofal a chymorth wedi codi yw—

(a)

oherwydd bod yr oedolyn yn ddiymgeledd, neu

(b)

oherwydd effeithiau corfforol bod yn ddiymgeledd, neu oherwydd yr effeithiau o’r math hwnnw a ragwelir.

(2)

At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(2) i (7) o Ddeddf 1999 yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(4) a (5) o’r Ddeddf honno at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw.

(3)

Ond, hyd nes cychwyn adran 44(6) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae is-adran (2) i gael effaith fel pe bai’n darllen fel a ganlyn—

“(2)

F1At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(3) a (5) i (8) o Ddeddf 1999, a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi, yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(5) a (7) a’r paragraff hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw.”

(4)

Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth yn cynnwys cyfeiriad at wneud hynny er mwyn diwallu anghenion gofalwr am gymorth.