47Eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechydLL+C
(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gwasanaeth neu gyfleuster y mae’n ofynnol ei ddarparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig â gwneud rhywbeth arall i ddiwallu anghenion o dan yr adrannau hynny, neu’n ategol at wneud hynny.
(2)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau gwasanaethau neu gyfleusterau i berson o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny’n gysylltiedig â sicrhau, neu’n ategol at sicrhau, gwasanaeth neu gyfleuster arall i’r person hwnnw o dan yr adran honno.
(3)Caiff rheoliadau bennu—
(a)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau y caniateir, er gwaethaf is-adrannau (1) a (2), eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau y caniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;
(b)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau na chaniateir iddynt gael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau na chaniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;
(c)gwasanaethau neu gyfleusterau, neu ddull ar gyfer dyfarnu gwasanaethau neu gyfleusterau, y mae eu darparu i’w drin, neu i’w beidio â’i drin, fel pe bai’n gysylltiedig neu’n ategol at ddibenion is-adran (1) neu (2).
(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig.
(5)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15.
(6)Ond caiff awdurdod lleol, er gwaethaf is-adrannau (1), (2), (4) a (5), drefnu i lety ynghyd â gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig gael eu darparu—
(a)os yw’r awdurdod wedi cael cydsyniad i drefnu’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan—
(i)pa Fwrdd Iechyd Lleol bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, neu
(ii)pa gorff iechyd Seisnig bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yn Lloegr, neu
(b)mewn achos brys a lle bo’r trefniadau’n rhai dros dro.
(7)Mewn achos y mae is-adran (6)(b) yn gymwys iddo, rhaid i’r awdurdod lleol geisio cael y cydsyniad a grybwyllwyd yn is-adran (6)(a) cyn gynted ag y bo’n ddichonadwy ar ôl i’r trefniadau dros dro gael eu gwneud.
(8)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol—
(a)yn gwneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a chorff iechyd ynghylch p’un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster ai peidio o dan ddeddfiad iechyd;
(b)yn cymryd rhan yn y modd a bennir mewn prosesau ar gyfer asesu anghenion person am ofal iechyd a phenderfynu sut y dylid diwallu’r anghenion hynny.
(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar yr hyn y caiff awdurdod lleol ei wneud o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan gynnwys ymrwymo i drefniadau o dan reoliadau a wneir o dan adran 33 o’r Ddeddf honno (trefniadau â chyrff GIG).
(10)Yn yr adran hon—
ystyr “corff iechyd” (“health body”) yw—
ystyr “corff iechyd Seisnig” (“English health body”) yw—
ystyr “deddfiad iechyd” (“health enactment”) yw—
(a)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
(b)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
(c)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;
(e)Deddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009;
ystyr “gofal nyrsio” (“nursing care”) yw gwasanaeth sy’n cynnwys naill ai darparu gofal neu gynllunio, goruchwylio neu ddirprwyo’r gwaith o ddarparu gofal, ond nid yw’n cynnwys gwasanaeth nad oes angen iddo, o ran ei natur a’r amgylchiadau y mae i’w ddarparu ynddynt, gael ei ddarparu gan nyrs gofrestredig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 47(10) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 4 para. 219(b)(i); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F2Geiriau yn a. 47(10) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 1 para. 25(b)(i); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F3Geiriau yn a. 47(10) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 4 para. 219(b)(ii); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F4Geiriau yn a. 47(10) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 1 para. 25(b)(ii); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)