RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadau
I1C149Cyfyngiadau ar ddarparu taliadau
1
Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth o dan adrannau 35 i 45 oni bai—
a
bod y taliadau’n rhai uniongyrchol (gweler adrannau 50 i 53),
b
bod yr awdurdod o’r farn—
i
bod anghenion y person yn rhai brys, a
ii
na fyddai’n rhesymol ymarferol i ddiwallu’r anghenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,
c
bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu
d
bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.
2
Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15(1) oni bai—
a
bod yr awdurdod o’r farn—
i
y byddai’r taliadau’n sicrhau un neu fwy o’r dibenion a grybwyllwyd yn adran 15(2), a
ii
na fyddai’n rhesymol ymarferol sicrhau’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,
b
bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract, neu yn rhinwedd contract, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar gyfer ardal yr awdurdod, neu
c
bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.