Valid from 06/04/2016
(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth o dan adrannau 35 i 45 oni bai—
(a)bod y taliadau’n rhai uniongyrchol (gweler adrannau 50 i 53),
(b)bod yr awdurdod o’r farn—
(i)bod anghenion y person yn rhai brys, a
(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol i ddiwallu’r anghenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,
(c)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu
(d)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.
(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15(1) oni bai—
(a)bod yr awdurdod o’r farn—
(i)y byddai’r taliadau’n sicrhau un neu fwy o’r dibenion a grybwyllwyd yn adran 15(2), a
(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol sicrhau’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,
(b)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract, neu yn rhinwedd contract, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar gyfer ardal yr awdurdod, neu
(c)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 46-49 cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig) by Deddf Gofal 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol in O.S. 2015/995)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)